Stori’r cerddor Edwin Humphreys mewn 100 albwm ar gyfer BBC Radio Cymru.
Er nad ydynt yn ymwybodol o hyn mae’n eithaf sicr fod pawb wedi dod ar draws un o gyfraniadau Edwin i’r SRG (Sîn roc Gymraeg) dros y 35 mlynedd diwethaf. Mae bod mewn 100 albwm yn dipyn o garreg filltir.
Mae ei stori bersonol yr un mor gyffrous a pherthnasol, ac yn cychwyn yn y fyddin ar ddechrau’r wythdegau. Yn wir dyma ble ymddangosodd Edwin ar ei albwm cyntaf, sef albwm o massed bands o sawl gwahanol gatrawd. Mae dylanwad cerddoriaeth yn bwysig ac yn allweddol i sut y bu iddo adael y fyddin.
Clywn am ei hanes mewn gwahanol fandiau dros y blynyddoedd, megis Jecsyn Ffeif, Bod Delyn a’r Ebillion a Geraint Lovgreen a’r Enw Da
Cyn gorffen y daith yn ôl ym mhen Llŷn gyda Stiwdio Pant Yr Hwch, lle mae Edwin yn croesawu llawer o fandiau, cantorion, corau, hen ac ifanc i recordio mewn awyrgylch braf ond cynhyrchiol.
Dyma gyfle i fwynhau, dod i adnabod, a rhoi clod i un o gymeriadau mwyaf poblogaidd y SRG
Mae’r portread cynnes hwn yn wead llawn asbri o fywyd fyn difyr iawn. Yn llawn straeon ac ambell syrpreis daw’r gwrandawyr i adnabod Edwin wrth iddo ddatblygu o’r milwr cerddorol i’r ymgyrchydd a gweithiwr diflino dros y defnydd o gerddoriaeth fel therapi trwy cyfrwng y 100 albwm.