Amdanom

 

Emyr Roberts

Mae Emyr wedi gweithio mewn sawl gwahanol faes dros y blynyddoedd gan arbenigo ym maes dychan. Bu’n ysgrifennu, ac yn portreadu sawl cymeriad ar raglenni comedi megis Y Cleciwr, Pelydr X, Llwyth o Docs, Ll Files, The Politics Show, Call Of Fame a Cnex. Ac yn actio mewn sawl cynhyrchiad teledu, gan gynnwys C`mon Midffild, Teulu’r Mans, a Porc Peis Bach.

Ar lwyfan mae o wedi actio gyda Theatr Bara Caws yn Dinas Barhaus, Gai Fod ac Allan O Diwn - ei sioe un dyn bywgraffiadol, a gyda Theatr Genedlaethol Cymru yn Sgint a Chwalfa. Bu’n perfformio stand-up ar hyd a lled Cymru am bum mlynedd ar hugain.

Bu Emyr yn gyd cynhyrchydd ar rhai o’r rhaglenni uchod ac erbyn hyn gyda Chwmni THR rydym yn ymfalchïo mewn prosiectau megis y comedi llwyddiannus Dadra ar gyfer S4C, 100 Albwm Edwin Humphreys i Radio Cymru, The Lost Princes of Wales i Radio Wales, a News From Nowhere a Bloody Eisteddfod i Radio 4.

 


 

 

Myfanwy Alexander

Creodd Myfanwy ei chyfres radio boblogaidd ‘The Ll Files’ ym 1999 fel ymateb dychanol Radio Wales i sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Darlledwyd y sioe am 13 gyfres gan ennill i Myfanwy wobr Sony am gomedi. Mae hi wedi cyfrannu i sawl rhaglen radio ar BBC Radio Cymru, Radio Wales a Radio 4, yn cynnwys Call of Fame, Postmortem, Tea Junction, Broadcasting House a Bwletin. Bu’n gyfrifol am ysgrifennu’r ddrama ‘Haint’ i Radio Cymru oedd yn adlewyrchu argyfwng y clwyf traed a’r gennau yn 2001.

Myfanwy oedd yn gyfrifol am ysgrifennu ‘Teach Yourself to be Welsh,’ ac ‘I Know Cardiff like the Back of My Cab’ (BBC WalesTV) a hi greodd y gyfres gomedi sgetshis teledu ‘Large.’ Cyfrannodd sawl sgets i ‘Planet Max.’ Datblygodd a chyd-sgwennodd ffilm fer ‘Tân a Thân’ ar gyfer S4C.

Ers 2015, mae Myfanwy wedi cyhoeddi pedair nofel sy’n dilyn anturiaethau’r Arolygydd Daf Dafis, Heddlu Dyfed Powys. Mae’r nofelau wedi gwerthu’n dda gyda dwy wedi eu cyfieithu a’u cyhoeddi’n Saesneg. Yn Awst 2020, darlledwyd addasiad radio o’r nofel gyntaf ar Radio 4, Radio Cymru a Radio Wales. Dyma’r cyd-gynhyrchiad gyntaf rhwng yr orsafoedd hyn.

Bu Myfanwy yn gyd cynhyrchydd ar rhai o’r rhaglenni uchod ac erbyn hyn gyda Chwmni THR rydym yn ymfalchïo mewn prosiectau megis y comedi llwyddiannus Dadra ar gyfer S4C, 100 Albwm Edwin Humphreys ac A Oes Heddwas i BBC Radio Cymru, The Lost Princes of Wales i BBC Radio Wales, a News From Nowhere a Bloody Eisteddfod i BBC Radio 4.