Lost Prince of Wales

Lost Prince of Wales

Rhaglen ysgafn i BBC Radio Wales yn bwrw golwg treiddgar ar dywysogion Cymru na ddaeth yn frenin Lloegr.

Wrth i ni gofio’r arwisgiad dros hanner can mlynedd yn ôl mae gryn ddyfalu unwaith eto am ddyfodol tywysog Charles. A fydd o’n frenin neu a’i ymuno a’r rhestr o dywysogion Cymru na chafodd etifeddu coron Lloegr fydd ei dynged? Ond pwy oedd y tywysogion hyn, a beth oedd arwyddocâd eu methiant ar gwrs hanes.

Myfanwy Alexander, awdur ac enillydd gwobr Sony am raglen BBC Radio Wales yr ‘Ll files’ sydd yn ceisio darganfod beth ddigwyddodd a beth yw’r goblygiadau ar gyfer y sefyllfa bresennol.

O’r tywysog Du (ei blu triphlyg o sydd dal ar ein crysau rygbi) at Frederick o Hanover di-glem oedd yn gyfrifol am ysgrifennu drama mor wael bu rhaid ad dalu’r gynulleidfa, mae straeon y gwŷr hyn yn datgelu llawer o bethau annisgwyl am eu cyfnod. Roedd eu tranc yn gadael eilyddion anghyflawn, di-lun i esgyn i’r orsedd. Ond pwy oedden nhw, ymhle roedden nhw’n byw, a beth oedd eu perthynas a Chymru? A fydda’r diwygiad Protestannaidd wedi digwydd pe na fydda Arthur wedi marw yn Llwydlo gan adael i’w frawd ddod yn Harri’r 8fed? Pe bydda Henry Stuart, tywysog poblogaidd ac ystyrlon, er gwaetha gosod blwch rhegi yn ei lys, wedi goroesi a fydda’r rhyfel cartref wedi digwydd?

 

Click below to hear the clip: