Comedi sefyllfa gan y prifardd Gruffudd Owen am Euros Jones, tad llawn amser i fabi newydd-anedig a phoenwr o fri. Mae'r gyfres hon yn cyfuno anwyldeb tawel 'Detectorists', sinigiaeth onest 'Fleabag' a ffraethineb trwyadl Cymreig 'Cymon Midffild'! Yn apelio at millenials a rhieni ifanc, mae’r gyfres yma yn archwilio lot o'r hyn sydd yn poeni'r gynulleidfa darged: rhianta, rhyw, cariad, iselder, tyfu’n hŷn ac arian.
Lleolir y cyfan ar fainc mewn parc lle gwelir y perthynas rhwng Euros (Gruffudd Owen) a Llio, mam ifanc dan straen (Manon Wilkinson) yn datblygu’n ganolog i’r cyfan. Mae’r ddau yn trafod ymysg pethau eraill bwyd babis, rhyw, unigrwydd, a chwyno am rieni ifanc trendi sydd i’w gweld yn llwyddo gyda’r rhialtwch rhianta yma yn well na nhw.
Er mai comedi yw hi mae yna elfennau eraill sydd yn rhoi mwy o swmp emosiynol i'r gyfres. Yn ogystal â chodi gwen mae o’n datgelu’r angst dosbarth canol Cymraeg o geisio cynnal bywyd dinesig Cymraeg yn yr unfed ganrif ar hugain.
Pennod 1
https://youtu.be/acC2FUrdElc
Pennod 2
https://youtu.be/PQyOqgF1b1A
Pennod 3
https://youtu.be/boHEZe1idg0
Pennod 4
https://youtu.be/uwNKLIfofjE
Pennod 5
https://youtu.be/sr1gKGrGZSU