A Oes Heddwas

A Oes Heddwas

Mae'r steddfod yn dod i ardal Daf Dafis, ond er gwaethaf ei ymdrechion dyw’r Arolygydd prysur methu dianc felly fydd rhaid iddo ddelio a phopeth a ddaw yn sgil eisteddfod sef, trais, cyffuriau, cerdd dant a llofruddiaeth.

Addasiad o nofel 'best-seller' Myfanwy Alexander yw 'A oes Heddwas', stori afaelgar efo cefndir diwylliannol cyfredol. Dyma'r gyntaf yn y gyfres o nofelau poblogaidd sy'n dilyn hynt a helynt yr Arolygydd Dafydd Dafis o Heddlu Dyfed Powys.

Ag yntau wedi bwriadu dianc am wyliau rhag y steddfod a gosod ei dŷ am yr wythnos mae cynlluniau Daf Dafis yn ffradach wrth i wyliau’r heddlu cael eu canslo, a phwy sydd yn llogi ei dŷ ond hen ffrind coleg a chyfryngi llwyddiannus Gethin Teifi. Mae bywyd llwyddiannus ei gyfaill yn dra gwahanol i un Daf ond o dan yr wyneb mae yna gyfrinachau tywyll sy’n gadael Gethin Teifi yn destun casineb gan gymaint o bobol. Cyn gariad i’w gariad ifanc presennol,  beiciwr anabl sy’n beio Gethin am ei ddamwain, a chyn wraig, sy’n seren sebonau, a gafodd ei ‘dympio’ ganddo er mwyn y cariad ifanc newydd.

Am y tro cyntaf ers Hedd Wyn dyw’r bardd buddugol yng nghystadleuaeth y gadair ddim yn bresennol yn y pafiliwn, ond nid mewn ffos yn Fflandrys mae corff yr enillydd Gethin Teifi ond tu ôl i’r babell gelf. Mae’r rhestr o’r rhai dan amheuaeth yn faith gan gynnwys Daf ei hun sy’n gweld diddordeb Gethin ym Morwyn y Fro, sef ei ferch Carys yn fygythiad. Mae’n rhaid iddo ddarganfod y gwir tra mae ei fywyd personol o’i hun araf datod.
 
Yn gefndir unigryw i'r cyfan mae cefn gwlad Maldwyn, efo'i thraddodiadau a'i thafodiaith enwog, i gyd yn cyfrannu at brofiad cynhenid Cymreig wrth i ni ddilyn stori dditectif efo sawl troad annisgwyl, sawl cyfrinach a sawl 'cliff-hanger.'  Mae'r cast yn cynnwys actorion profiadol megis Steffan Rhodri, Rhian Morgan, Mathew Gravelle, Mali Harries,  Richard Elfyn, Lisa Jȇn Brown a Rhodri Trefor yn ogystal a talentau ifanc lleol fel Caryl Lewis (Tan a Than a Theatr Gen yr Urdd) a Wyn Davies (Tan a Than a chyfres drama A470).

 

  • Arolygydd Daf Dafis
  • Caryl Lewis a Lisa Jen yn y stiwdio
  • DS Sheila Francis
  • DS Sheila Francis
  • Matthew Gravelle a Rhodri Trefor yn y stiwdio
  • Myfanwy a Rod Callan yn y stiwdio
  • Steffan a Rhian yn y stiwdio 1
  • Wyn Davies yn y stiwdio

Chwarae'r clip isod: